Cynllun Lles Lleol Caerdydd 2023-2028 – Drafft

Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori statudol 12 wythnos ar Gynllun Lles Lleol 2023-28 Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Caerdydd rhwng 28 Hydref 2022 a 20 Ionawr 2023.

Mae’r Cynllun yn ymateb i sylfaen dystiolaeth amrywiol ar ansawdd bywyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd, a sut y gallai’r rhain newid dros y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys:

  • Asesiad Lles Lleol Caerdydd: astudiaeth gynhwysfawr o ansawdd bywyd yng Nghaerdydd a gynhaliwyd yn 2022. Mae’r asesiad yn cynnwys adroddiad ‘Caerdydd Heddiw‘, sy’n nodi ble mae’r ddinas yn perfformio’n dda, ble mae angen iddi wella a’i heriau allweddol, ac adroddiad ‘Caerdydd Yfory‘, sy’n nodi’r tueddiadau hirdymor sy’n wynebu Caerdydd ac effaith y rhain ar wasanaethau cyhoeddus y ddinas.
  • Asesiad Anghenion Poblogaeth Caerdydd a’r Fro: asesiad o anghenion gofal a chymorth ymysg trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â’r ystod a’r lefel o wasanaethau sydd eu hangen i fodloni’r anghenion hynny.
  • Barn pobl Caerdydd

Mae’n gwneud hyn drwy nodi blaenoriaethau BGC Caerdydd ar gyfer gweithredu mewn partneriaeth dros y 5 mlynedd nesaf.  Mae hyn yn cynnwys rhestr o bethau y bydd y BGC yn eu mesur (“dangosyddion canlyniadau”) i sicrhau eu bod yn cyflawni hyn.

Gweld y Cynllun Drafft

Gellir cyrchu’r Cynllun Drafft trwy’r dolenni canlynol:

Cymraeg

Saesneg

Dashfwrdd Dinas

Yn ategol i’r Cynllun Drafft mae Dashfwrdd Dinas newydd Caerdydd, y gellir ei gyrchu yma.

Mae’r Dashfwrdd yn rhoi mynediad i’r data diweddaraf sy’n helpu i baentio darlun o fywyd yng Nghaerdydd ac yn eich galluogi i adolygu’r tueddiadau mawr sy’n ymwneud ag ystod o faterion fel yr economi, yr amgylchedd, diogelwch cymunedol, iechyd a lles. Mae hefyd yn rhoi proffil manwl pob ward yng Nghaerdydd ac yn eich galluogi i gymharu bywyd yng Nghaerdydd gyda rhannau eraill o’r DU (lle mae’r data ar gael).

Adborth ar yr Ymgynghoriad

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i ddiwygio’r Cynllun yn unol â’r adborth a gafwyd; bydd fersiwn derfynol o’r Cynllun Lles yn cael ei chyhoeddi ym mis Mai 2023.

Yn y cyfamser, mae’r BGC wedi llunio adroddiad sy’n amlinellu prif ganfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â chanfyddiadau allweddol nifer o ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Gellir gweld ‘Adroddiad Trosolwg o’r Ymgynghoriad’ yma.

Cynlluniau Lles Lleol Blaenorol