Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd (BGC Caerdydd) yn dod ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau at ei gilydd i sicrhau mwy o gydweithio, gan wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Caerdydd.
Dyma’r rhestr o aelodau BGC Caerdydd:
- Y Cyng Huw Thomas, (Cadeirydd), Arweinydd Cyngor Caerdydd
- Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd
- Paul Orders, Prif Weithredwr, Cyngor Caerdydd
- Sarah McGill, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau, Cyngor Caerdydd
- Suzanne Rankin, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Marie Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau Canol y De, Cyfoeth Naturiol Cymru
- Sheila Hendrickson-Brown, Prif Weithredwr, C3SC
- Danny Richards, Prif Uwch-arolygydd, Heddlu De Cymru
- Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
- Dan Jones, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais
- Eirian Evans, Pennaeth UCP, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC)
- Zenny Saunders, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, Llywodraeth Cymru
Pan fydd angen, gwahoddir uwch swyddogion sefydliadau BGC i gymryd rhan mewn cyfarfodydd BGC ar y cyd i lywio trafodaethau neu i gyflwyno diweddariadau ar waith i gyflawni ymrwymiadau sydd yng Nghynllun Lles Caerdydd.
Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen i BGCau gynnal asesiad lles lleol ac llunio cynllun lles lleol. Mae’r rhain yn nodi amcanion a fydd yn cyfrannu at gyflawni 7 nod llesiant Llywodraeth Cymru. Mae hefyd angen i BGCau lunio Adroddiad Blynyddol sy’n nodi’r camau a roddwyd ar waith i gyflawni amcanion Cynllun Lles y BGC.
Cylch Gorchwyl
Mae BGC Caerdydd yn gweithio gyda phob rhan o’r sefydliad i sicrhau gwell gwasanaeth i ddinasyddion Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.
Mae BGC Caerdydd yn gweithredu yn unol â’r cylch gorchwyl canlynol