Nododd Cynllun Lles Lleol cyntaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd flaenoriaethau gweithredu dros y blynyddoedd 2018 i 2023.
Y BGC saith maes blaenoriaeth (neu Amcanion Lles) y byddai ei waith yn canolbwyntio arnynt:
- Prifddinas sy’n gweithio dros Gymru
- Mae Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn
- Cymunedau diogel, hyderus a grymus
- Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu
- Cefnogi pobl allan o dlodi
- Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn
Sail Dystiolaeth
Ymatebodd y Cynllun i sylfaen dystiolaeth amrywiol ar ansawdd bywyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd, a sut y gallai’r rhain newid dros y blynyddoedd i ddod.
Roedd hyn yn cynnwys:
- Asesiad Lles Lleol Caerdydd: astudiaeth gynhwysfawr o ansawdd bywyd yng Nghaerdydd a gynhaliwyd yn 2017 Link to well-being assessment
- Barn pobl Caerdydd: rhaglen ymgysylltu ar ddatblygu’r cynllun link to consultation report
- Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Caerdydd: adroddiad ar gyfer BGC Caerdydd sy’n nodi’r tueddiadau hirdymor sy’n wynebu Caerdydd a’r effaith y bydd y rhain yn eu cael ar wasanaethau cyhoeddus y ddinas.
- Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: I gynorthwyo BGCau wrth ddatblygu eu Cynlluniau Lles, dan Adran (42) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) rhaid i’r Comisiynydd roi cyngor ar sut i weithredu i gyflawni amcanion drafft y BGC. Link to advice letter
Adroddiadau Blynyddol
Mae pob Adroddiad Blynyddol yn rhoi trosolwg o’r gwaith a’r prosiectau mae partneriaid wedi’u cynnal i helpu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni ei Gynllun Lles (2018-23):